SENNA
Mae Phytovation yn defnyddio codennau sych y planhigyn senna, sef planhigyn lled-ddiffeithdirol o genws mawr o blanhigion blodeuol yn nheulu codlysiau’r Fabaceae. Yn unol â’r Cyffuriaduron Prydeinig ac Ewropeaidd, mae’r codennau a geir o India o’r isrywogaeth Cassia angustifolia Vahl ac mae’r codennau a geir o’r Swdan o’r isrywogaeth Cassia senna L.
Roedd rhinweddau senna fel carthydd yn hysbys i’r Eifftiaid gynt, ac mae wedi bod yn cael ei ddefnyddio fel carthydd ers hynny. Tybir bod y gair senna yn tarddu o’r gair Arabeg sanā. Defnyddiwyd senna mewn meddygaeth orllewinol ers y canol oesoedd ac fe’i defnyddid, yn nodweddiadol, drwy wneud te o nifer fach o ddail neu godennau. Erbyn hyn, cymerir senna fel tabledi fel arfer, ond mae ar gael fel capsiwlau, gronynnau a hylif mewn rhai marchnadoedd.
Mae’r rhan actif o senna yn cynnwys cyfres o glycosidau hydrocsianthrasen a chyfansoddion cysylltiedig. Caiff y rhain eu dadelfennu gan fflora’r perfeddion i greu moleciwl llai, o’r enw rhein, sy’n achosi llid yn wal y coluddyn mawr. Mae hynny yn ei dro yn achosi gweithrediad peristaltig ac yn tynnu dŵr i’r coluddyn, sy’n peri symudiad yn y coluddion.
How can we help
We are always happy to talk to prospective customers about developing new ranges of products.