Arbenigedd
Casglu
Mae’r cwmni’n casglu ei ddeunydd crai gan set bychan o gyflenwyr yn y Swdan ac India sydd wedi cael eu dethol yn ofalus. Mae hyn yn cynnig rhwyd ddiogelwch pe byddai rhywbeth yn tarfu ar y cyflenwad, er enghraifft unrhyw weithredu gwleidyddol neu golli cnwd yn sgil y tywydd.
Caiff y cyflenwyr eu dethol ar sail eu gallu i fodloni’r gofynion manwl yn ogystal â phris, ond mae Phytovation hefyd yn rhoi sylw manwl i brofiad y cyflenwr, eu systemau ansawdd a’u hardystiadau, yn ogystal â’u parodrwydd i fabwysiadu dulliau a systemau newydd pan fo gofyn.
Prosesu
Mae Phytovation yn defnyddio dull o’i eiddo ei hun er mwyn safoni nerth y senna y mae’n ei gynhyrchu. Nid yw’r dull hwn yn defnyddio toddyddion o unrhyw fath ac felly mae’r cynnyrch gorffenedig yn gwbl rydd o unrhyw weddillion toddyddion. Mae’r cynnyrch gorffenedig yn 100% senna naturiol hefyd, heb unrhyw ychwanegiadau.
O safbwynt y cleient, mae’r ffaith bod y cynnyrch yn cael ei gyflenwi â nerth safonedig yn golygu y gellir ei ddefnyddio mewn fformwlâu safonol heb amrywio faint o lenwyddion a ddefnyddir er mwyn paratoi tabledi neu gapsiwlau â’r ddos ofynnol.
Mae’r diffyg gweddillion toddyddion a’r ffaith bod y cynnyrch gorffenedig yn 100% senna naturiol yn rhoi tawelwch meddwl i’r claf ac yn rhoi’r cyfle i weithgynhyrchwyr hawlio hynny ar eu labeli.
Dadansoddi
Mae Phytovation yn defnyddio dull HPLC wedi ei ddilysu i benderfynu ar y nerth cyn y prosesu ac yn ystod y prosesu, ac i roi gwerth prawf ar gyfer Tystysgrifau Dadansoddiad. Datblygwyd y dull hwn ar y cyd â Phrifysgol Bangor ac mae’n mesur yr holl gyfansoddion actif yn y senna, gan gynnwys yr holl sennedinau glycosidau hydrocsianthrasen (sennoidau A, A1, B, C, C1, D a D1), y monoglysidau cyfatebol a’r aglyconau. Dilyswyd y dull hwn yn unol â chanllawiau’r ICH.
How can we help
We are always happy to talk to prospective customers about developing new ranges of products.