SAES | CYM

Mae enw’r cwmni yn tarddu o’r gair Groeg Phyto-, sy’n golygu ‘planhigion’, a’r terfyniad Lladin -ation, sy’n golygu gweithred neu broses, a dyna, yn y bôn, yr ydym yn ei wneud! Mae’r enw’n adlewyrchu ymrwymiad y cwmni i ddefnyddio senna naturiol pur a broseswyd gan ddefnyddio ein techneg ein hun, sy’n osgoi defnyddio toddyddion nac unrhyw gemegion eraill fel bod y Cynhwysyn Fferyllol Actif yn parhau i fod yn 100% senna ond y bydd ganddo, wedi iddo gael ei brosesu, nerth safonedig yn barod i’w gynnwys mewn fformwlâu.

Ffurfiwyd y cwmni gan grŵp o fuddsoddwyr a chanddynt gyfoeth o brofiad yn y diwydiant fferyllol, a sylwodd fod galw am ffyrdd newydd arloesol ac uchel eu hansawdd o gynhyrchu echdynion o blanhigion.

Symudodd y cwmni i’w gyfleuster cynhyrchu yng Nghaernarfon ym mis Hydref 2006.  Gyda golygfeydd dros Fôr Iwerddon, Pen Llŷn a draw am fynyddoedd Eryri, mae’r adeilad mewn lleoliad perffaith ar gyfer denu gweithwyr o’r safon uchaf sydd yn chwilio am well ansawdd bywyd, ond mae hefyd yn agos at gysylltiadau trafnidiaeth gwych yr A55 a rheilffordd Glannau Gogledd Cymru. Mae’r dechnoleg felino ddiweddaraf i’w gweld yn yr uned, yn ogystal â labordy ac ynddo offer cynhwysfawr sy’n defnyddio HPLC a thechnegau eraill er mwyn cyrraedd a chynnal safonau ansawdd manwl.

Mae’r cwmni’n ymroddedig i gynhyrchu cynhyrchion o ansawdd uchel, â phob un ohonynt yn cwrdd â’r safonau perthnasol, ac i roi'r gweithwyr, y systemau a’r ethos gorau ar waith i sicrhau bod pob cwsmer yn cael y gwasanaeth gorau posibl.  Yn ogystal â hyn, mae’r cwmni wedi mabwysiadu Polisi Amgylcheddol cyfoes i leihau'r defnydd o ynni, lleihau cymaint â phosibl ar wastraff a chynyddu ailgylchu, gan gael gwared â sgil-gynhyrchion mewn modd cyfrifol, ac i leihau cymaint â phosibl ar yr effaith a gaiff gweithrediadau’r cwmni ar yr amgylchedd.